Cwestiwn 1 - Yn
eich barn chi, a yw Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn
cyfrannu at y deilliannau a’r targedau a nodir yng Nghynllun
Strategol y Gymraeg mewn Addysg Llywodraeth Cymru?
|
Yn
sicr
Maent yn gosod cyfeiriad a thargedau pendant i ddatblygiad
addysg Gymraeg.
Lle
mae awdurdodau addysg wedi bod yn strategol, gwelwyd twf yn y
niferoedd o ddisgyblion. Serch hynny, nid ydym o'r farn fod
nifer o awdurdodau wedi rhoi blaenoriaeth briodol i'r
targedau.
|
Os ydych o’r farn
nad yw Cynlluniau Strategol
Cymraeg mewn Addysg yn cyfrannu ddigon, sut y gellir datrys
hyn?
|
Angen i awdurdodau fod
yn fwy atebol os nad ydynt yn gallu arddangos yn glir gynllunio ar
gyfer bwrw'r targedau.
Dylid fod monitro
llawer manylach gan LCC.
|
Cwestiwn 2 - Yn
eich barn chi, a yw Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn
sicrhau’r newidiadau angenrheidiol mewn awdurdodau lleol, neu
a allant wneud hynny (er enghraifft, sicrhau eu bod yn darparu ar
gyfer unrhyw gynnydd yn y galw am addysg Gymraeg)?
|
Eto,
mewn rhai awdurdodau addysg, mae wedi arwain at gynllunio priodol
ac sydd wedi arwain at gynnydd clir a mesuradwy yn y
ddarpariaeth.
Yn
yr un modd, lle nad yw AALl wedi blaenoriaethu a chynllunio'n
briodol, nid yw'r un cynnydd yn weladwy.
|
Os ydych o’r farn
nad yw Cynlluniau Strategol
Cymraeg mewn Addysg yn sicrhau newidiadau, neu na allant wneud
hynny, sut y gellir datrys hyn?
|
Os
gellir cynyddu'r atebolrwydd a'r monitro o'r cynlluniau, nid oes
rheswm na all arwain at gyrraedd y targedau.
Mae natur llwyddiant Strategaeth Cymraeg mewn addysg yn aml
iawn yn dibynnu ar ymdrechion ac ymroddiad gwleidyddol (ar lefel
leol / ranbarthol) ac mae llwyddiant NEU’R methiant hynny yn
cael eu hamlygu wrth edrych ar ddata a chanlyniadau ffrwyth y
gwaith yma (mae rhai Awdurdodau yn gwneud yn wych ac eraill yn
gwella fawr ddim).
Wrth edrych ar dwf addysg Gymraeg fel arfer fe welir
tystiolaeth ôl y gwaith caled NEU’R difaterwch yma yn
glir.
|
Cwestiwn 3 - Beth
yw eich barn ar y trefniadau ar gyfer pennu targedau; monitro;
adolygu; cyflwyno adroddiadau; cymeradwyo a chydymffurfio â
gofynion Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (a rôl
awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru yn y cyswllt hwn)?
|
Mae'r targedau yn ddigon clir yn y ddogfen.
Y
prif wendid yw nad oes unrhyw atebolrwydd pan na fydd y targedau'n
cael eu methu.
Nid
yw'r berthynas rhwng arian WEG / WESP a llwyddiant y cynlluniau
strategol yn ddigon clir a thryloyw.
|
Os ydych o'r farn bod
problemau yn y maes hwn, sut y gellir eu datrys?
|
Sicrhau fod perthynas
fwy agos rhwng llwyddiant y strategaethau a'r ariannu.
Monitro mwy manwl ac agos o lwyddiannau'r
strategaethau.
Codi ymwybyddiaeth y
Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg ar lefel
wleidyddol.
|
Cwestiwn 4 - Yn
eich barn chi, a yw Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn
amlygu rhyngweithio effeithiol rhwng strategaeth addysg Gymraeg
Llywodraeth Cymru a deddfwriaeth a pholisïau perthnasol
eraill*?
(*er enghraifft, polisi cludiant ysgolion; rhaglen Ysgolion yr
Unfed Ganrif ar Hugain; y datganiad polisi - Iaith fyw:iaith byw;
Dechrau’n Deg; polisi cynllunio)?
|
Mae
amrywiaeth fawr rhwng awdurdodau addysg ac ar draws sectorau yn y
maes yma.
Angen edrych ar gostau cludiant yn enwedig i blant Meithrin
(anstatudol) mewn ardaloedd difreintiedig. Nifer fawr o
ysgolion Cymraeg yn colli plant i ysgolion lleol oherwydd costau
teithio yn y blynyddoedd cyntaf.
|
Os ydych o'r farn bod
problemau yn y maes hwn, sut y gellir eu datrys?
|
Cyfeiriad clir eto gan LlCC i sicrhau fod yr holl AALl,
Consortia a sectorau yn gweithio yn yr un modd.
Angen edrych ar unedau meithrin mewn ysgolion lleol (ysgolion
cychwynnol).
|
Cwestiwn 5 - Yn
eich barn chi, a yw canlyniadau’r Cynlluniau Strategol
Cymraeg mewn Addysg yn sicrhau canlyniadau teg i bob disgybl, gan
gynnwys er enghraifft, disgyblion cynradd / uwchradd; plant o
gartrefi incwm isel?
|
Teithio er mwyn sicrhau hygyrchedd i addysg Gymraeg yn gallu
effeithio ar a lleihau twf. Felly hefyd darpariaeth
leol.
Mae
yna amrywiaeth mawr yn y niferoedd o safleoedd Dechrau'n Deg
cyfrwng Cymraeg?
Rhai
awdurdodau bellach yn ystyried / ymgynghori ar godi tâl
teithio addysg ôl 16
yn gosod rhwystrau i ddisgyblion yn y broses o drosglwyddo yn 11.
Mae'n codi cwestiynau mawr.
|
Os ydych o’r farn
nad yw canlyniadau’r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn sicrhau
canlyniadau teg, sut y gellir datrys hyn?
|
Ymchwil manwl i
Ddyraniad arian Dechrau'n Deg i leoliadau Cymraeg
Effaith teithio a chost
teithio i dwf addysg Gymraeg (cynradd, uwchradd ac ôl
16)
|